SALM 19:1 Mae’r nefoedd yn adrodd gogoniant Duw, a’r ffurfafen yn mynegi gwaith ei ddwylo.

(BCN) Y darlleniad ar gyfer Sul Carchardai 8 Hydref 2023

Ar adegau byddwn yn teimlo’n bell neu’n amau presenoldeb Duw yn ein bywydau, a hyd yn oed yn gweiddi allan yn flin neu mewn tristwch, “Ble wyt ti nawr?” Ond mae wedi addo bod gyda ni’n wastadol ac wrth i ni chwilio am y gwirionedd, am gariad, pwrpas neu faddeuant, fe ddaw’r ateb sy’n gofyn i ni fel hyn, “Edrycha i fyny fy mhlentyn”.

Am ganrifoedd roedd Cristnogion yn dysgu gweddïo drwy’r Salmau, y cerddi a’r gweddïau cysegredig a ysgrifennwyd yn uchelfannau ac yn nyfnderoedd profiadau ac emosiynau dynol; anobaith, colled, teimlo’n flin, brad, unigedd, euogrwydd, dioddefaint, dryswch, gobaith, llawenydd, rhyfeddod, diolch a mawl.

Y Salmau sydd wedi ysbrydoli gweddïau eleni, a ysgrifennwyd gan bobl sydd wedi cael profiad o garchar a chyfiawnder troseddol; carcharorion, y rhai sy’n gadael carchar, dioddefwyr trosedd, teuluoedd a chymunedau, y rhai sy’n gweithio neu’n gwirfoddoli mewn carchardai a gyda’r system gyfiawnder troseddol. Rydym yn eich gwahodd i weddïo bob dydd gyda nhw, gan ddefnyddio un neu fwy o’u gweddïau isod. Gallech weddïo hefyd drwy ddefnyddio Salm sy’n gyfarwydd i chi. Gallech weddïo wrth i chi wylio ffilm eleni ar ein gwefan, gan wrando ar eiriau ‘Look up Child’ yn cael eu canu gan Lauren Daigle.

Pan fydd pwysau’r byd yn ein llethu, does dim rhaid i ni blygu pen mewn gweddi o reidrwydd. Gallwn edrych i fyny gan wybod bod ein Tad nefol yn edrych i lawr arnom gyda chariad. Gallwn edrych i fyny a gweld ei bresenoldeb yn rhyfeddod y greadigaeth ac yn ein byd naturiol. Ble bynnag a phryd bynnag y byddwn yn galw neu’n erfyn mewn gweddi, “edrycha i fyny fy mhlentyn” yw’r ymateb gan Dduw cariadus sydd bob amser yn barod i wrando, y mae ei gariad ffyddlon yn estyn allan atom drwy Iesu ac yn cynnig i ni faddeuant a gobaith, drwy holl ddyddiau ein bywyd.

GWEDDI WYTHNOS CARCHARDAI
Arglwydd, rwyt ti’n cynnig rhyddid i bob un. Gweddïwn dros y rhai sydd yn y carchar. Boed i ti dorri’r rhwymau ofn ac unigrwydd sy’n bodoli yno. Cefnoga gyda’th gariad garcharorion a’u teuluoedd a’u cyfeillion, staff carchardai a phawb sy’n malio. Boed i ti iachau’r rhai sydd wedi’u clwyfo gan weithredoedd eraill, yn enwedig dioddefwyr trosedd. Helpa ni i faddau i’n gilydd, i ymddwyn yn gyfiawn, caru trugaredd a cherdded yn ostyngedig gyda’n gilydd, gyda Christ yn ei nerth ac yn ei Ysbryd, nawr a hyd byth. Amen

Diwrnod 1
O’R DYFNDERAU Y GWAEDDAIS ARNAT, O ARGLWYDD
Salm 130:1
Dad nefol, diolch i ti am y rhai sy’n gweithio yn y gwasanaeth carchardai. Boed iddynt gael eu cymell gan awydd i helpu eraill i fyw’n dda. Gweddïwn dros unrhyw un sy’n teimlo wedi diffygio. Helpa nhw i edrych i fyny a galw arnat ti, gan dy fod yn sanctaidd ac yn llawn trugaredd ac yn clywed ein gweddïau. Boed iddynt wybod am dy gariad di-ball tuag atynt a thros y carcharorion maent yn eu gwasanaethu. Rho obaith ac anogaeth o’r newydd iddynt yn eu gwaith heddiw.

Diwrnod 2
GWAEDDAIS YN UCHEL AR DDUW, A CHLYWODD FI
Salm 77:1
Dduw, os wyt ti yno, rwyf yn y tywyllwch, ar fy mhen fy hun ac yn teimlo bod pawb wedi troi cefn arnaf. A wnei di glywed fy nghri am gymorth? Yn y nos mae’r tywyllwch yn fy mygu ond rwy’n gwybod bod dy oleuni di’n llewyrchu. Rwyt ti’n fy nabod i’n well na fi fy hun, ac rwy’n troi atat mewn anobaith. Os wyt yn fy nghlywed i, siarad â mi. Os wyt ti yno, tyrd ataf. Rwyf am dy adnabod di a’th ddiogelwch. Achub fi o’m holl ofnau.

Diwrnod 3
DISGWYLIAF WRTH YR ARGLWYDD… A GOBEITHIAF YN EI AIR
Salm 130:5
Gweddïwn dros bawb sydd wedi’u heffeithio gan garchar – y carcharor, y teulu neu’r dioddefwyr. Bydd yn agos atynt pan fyddant yn flin, yn drist neu’n erfyn am gymorth. Boed iddynt gael sicrwydd o’th ymddiriedaeth di a’th gariad tuag atynt. Arglwydd, rwyt ti’n ein hadnabod ac yn agos atom ble bynnag yr ydym a beth bynnag a wnawn. Er ein bod ni’n crwydro mor aml o’th bresenoldeb, boed i ni wybod am gysur dy freichiau cariadus o’n hamgylch.

Diwrnod 4
OHERWYDD MAWR YW DY FFYDDLONDEB TUAG ATAF; A GWAREDAIST FY MYWYD O SHEOL ISOD
Salm 86:13
Arglwydd Dduw, diolch i ti am ras a thrugaredd. Diolch i ti fod derbyn dy faddeuant wedi fy ngalluogi i i faddau i’r rhai sydd wedi fy mrifo i, gan droi’r boen honno yn bwrpas. Rwy’n gweddïo dros y rhai sy’n canfod eu hunain mewn carchar, y byddant hefyd yn dod i adnabod dy ddaioni di ac yn llawen o dderbyn dy gariad, fel y gall eu bywydau hwythau hefyd gael eu trawsnewid a’u hadfywio.

Diwrnod 5
I BLE YR AF ODDI WRTH DY YSBRYD? I BLE Y FFOAF O’TH BRESENOLDEB?
Salm 139:7
Edrychwn at y Duw sy’n gwybod am y trafferthion rydym wedi’u profi. A gweddïwn y byddwn yn dod o hyd i sefydlogrwydd. Edrychwn at y Duw sy’n gwybod beth yw ein poen. A gweddïwn y deuwn o hyd i dangnefedd. Edrychwn at y Duw sy’n gwybod pwy sy’n bwysig i ni; ein hanwyliaid a’r rhai rydym yn eu colli. A gweddïwn y byddwn yn canfod gwir deulu a chymuned. Edrychwn tuag at yr Un sy’n ein galw yn ôl ein henw, blentyn annwyl.

Diwrnod 6
YMLONYDDWCH, A DEALLWCH MAI MYFI SYDD DDUW
Salm 46:10
Arglwydd, fe godwn bawb sydd wedi’u dal yn y system garchardai i fyny atat ti. Gyda’r dryswch, y llanast, y trais a’r caethiwed oll o’n hamgylch, gofynnwn i ti roi sicrwydd i ni dy fod yn noddfa i ni. Rydym ni’n gwybod y gallwn orffwys ynot ti, y gallwn ymlonyddu a gwybod mai ti sydd Dduw. Gweddïwn am heddwch yng nghalon pob un sydd y tu ôl i ddrysau cloëdig a gweddïwn y byddant yn gwybod dy fod ti gerllaw.

Diwrnod 7
MAE’R NEFOEDD YN ADRODD GOGONIANT DUW
Salm 19:1
Dduw Greawdwr, mae’r nefoedd yn datgan dy ogoniant ac rwyt wedi fy nghreu ar dy lun a dy ddelw dy hun. Tyrd ataf yn fy anobaith a’m tristwch i’m hatgoffa na allaf wneud unrhyw beth hebot ti. Wrth i mi godi fy llygaid a chlywed galwad Iesu i’w ddilyn, rwy’n diolch i ti mai dim ond trwyddo ti y gallaf brofi gwir heddwch ynof fi fy hun a gyda’r byd.

Am bron i 50 mlynedd, mae’r Wythnos Carchardai wedi annog Cristnogion ym mhob man i weddïo dros garcharorion a’u teuluoedd, dioddefwyr trosedd a’u cymunedau a’r rhai sy’n gweithio neu’n gwirfoddoli yn y system gyfiawnder troseddol. Gofynnwn i chi weddïo bob dydd yn ystod yr Wythnos Carchardai ond gofynnwch i’ch hun hefyd a oes un peth y gallech chi fel unigolyn, neu fel eglwys, ei wneud i helpu unrhyw un o’r bobl rydych chi’n gweddïo drostynt.

New to Prisons Week?

This, in a nutshell is what we believe, how we work together and what we do. If you're new to Prisons Week this is the best place to start.

A Unique Collaboration

Prisons Week is a leading example of the broadest expressions of the church working together for a common good.

Latest News